Gan fod staff tai cymdeithasol yn aml yn cael mynediad digyffelyb i gartrefi pobl, mae ganddynt gyfle unigryw i ymgysylltu â thenantiaid a’u lles.
Mae staff y sector tai mewn lle da i wneud ymholiadau disylw, sensitif, gan ymyrryd mewn ffordd a fydd yn grymuso tenantiaid sydd o bosibl yn dioddef cam-drin domestig – gall hyn gynnwys cael cymorth parhaus gan asiantaethau arbenigol ac asiantaethau eraill.
Gall ymyrraeth gan staff tai gynnwys:
• Mynegi pryder
• Creu’r amodau ar gyfer datgeliad
• Adnabod arwyddion a rhoi gwybod am bryderon
• Cynnig ymateb cychwynnol
• Amlinellu opsiynau a chyfeirio pobl
• Gwneud atgyfeiriadau
Awgrymu camau brys a all wella diogelwch personol
Mae canllawiau a gyhoeddwyd gan NICE (2014) yn nodi bod staff tai ymhlith y bobl hynny y dylid eu hyfforddi i adnabod arwyddion, gofyn cwestiynau am gam-drin domestig ac ymateb i ddatgeliadau.